Croeso'r Pennaeth

Ar ran disgyblion, staff a rhieni Ysgol Gyfun Llangefni hoffwn estyn croeso cynnes i’n gwefan.

Mae Ysgol Gyfun Llangefni yn ysgol ddwyieithog gyda phoblogaeth o 717 o ddisgyblion, 47 aelod o staff dysgu a 22 o staff cefnogol.

Rydym yn gwasanaethu canol Ynys Môn ac mae’r gymuned leol yn cynnwys tref Llangefni a’r ardaloedd gweldig sydd o’i chwmpas.

Nod

Mae Ysgol Gyfun Llangefni wedi ymwrymo i ddarparu addysg ragorol ble mae disgyblion yn cael eu cymell i ymdrechu hyd eithaf eu gallu i lwyddo.

Ein nod yw cefnogi disgyblion i gyrraedd eu potensial ar draws ystod o bynciau academaidd a galwedigaethol, gan ganolbwyntio ar ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a thechnoleg gwybodaeth. Rydym am i’n disgyblion adael yr ysgol gyda’r gallu i gystadlu yn y byd gwaith, mewn addysg bellach neu addysg uwch

Ethos

Mae’r ysgol yn un hapus ac rydym yn ymfalchïo yn y gofal a’r gynhaliaeth fugeiliol a roddir i’n disgyblion.

Mae cynhwysiant, Cymreictod, amrywiaeth, cydraddoldeb, parch ac empathi yn werthoedd yr ydym yn eu harddel.

Mr Huw Davies
Pennaeth

“Mae’r ysgol yn meithrin gwerthoedd moesol cadarnhaol fel gonestrwydd, tegwch a pharch at eraill.”

ESTYN, Mai 2014

“Mae’r tîm rheoli yn drefnus ac mae’r athrawon yn garedig iawn ac yn annog plant i wneud eu gorau.”

Disgybl Blwyddyn 8